Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 22 Ionawr 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
10:00 - 10:49 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Alun Ffred Jones Ann Jones Julie Morgan |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Meriel Singleton (Ail Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Alun Ffred Jones i'r Pwyllgor.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
2.1 Cyllido Addysg Uwch: 2.1 Gwybodaeth ychwanegol gan Addysg Uwch Cymru:
2.2 Cyllido Addysg Uwch: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
2.3 Cyllido Addysg Uwch: Gwybodaeth ychwanegol (2) gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Cyllid Cymru
4.1 Rhannodd yr Aelodau eu canfyddiadau yn dilyn y digwyddiad brecwast gyda busnesau bach a chanolig sydd wedi ymwneud â Chyllid Cymru. Ar y cyfan, roedd adborth yr Aelodau yn gadarnhaol.
4.2 Ystyriodd yr Aelodau dystion posibl ar gyfer y sesiynau tystiolaeth lafar.
5 Cymorth i Dalu'r Dreth Gyngor: Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru
5.1 Gan fod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ystyried y papur ymgynghori hwn, cytunodd y Pwyllgor na fyddent yn cyflwyno ymateb.
6 Bil Drafft Cymru: Adroddiad gan y Cadeirydd
6.1 Rhoddodd y Cadeirydd gyflwyniad llafar i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod o'r Pwyllgor Materion Cymreig y bu hi iddo ar 20 Ionawr.
7 Ardaloedd Menter: Crynhoad i'r Cyfryngau
7.1 Nodwyd y papur.
8 Blaenraglen waith: Diweddariad
8.1 Nodwyd y papur.